Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Diweddariad ar Faterion Ewropeaidd ar gyfer y cyfarfod ar 25 Ionawr

 

Papur briffio :

 

Dyddiad y papur:

18 Ionawr 2012

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’w ddefnyddio gan y Pwyllgor Menter a Busnes.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gregg Jones (ffôn 0032 2 226 6692) E-bost: Gregg.Jones@wales.gov.uk

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG



 

Cynnwys

 

 

1.          Cyflwyniad. 3

2.          Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2012. 3

2.1.     Sicrhau adfywio yn Ewrop. 3

2.2.     Meysydd posibl o ddiddordeb i’r Pwyllgor Menter a Busnes. 4

3.          Materion strategol ehangach o bwys i Gymru. 5

3.1.     Argyfwng Ardal yr Ewro. 5

3.2.     Ewrop 2020. 5


 

 

1.        Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar ddatblygiadau diweddar ym Mrwsel, gyda’r nod o lywio’r broses o gynllunio gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2012.

Mae’n canolbwyntio’n benodol ar raglen waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2012, a gyhoeddwyd ar 15 Tachwedd 2011, ac yn amlygu materion sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor hwn.

Cyfeiria hefyd at ddatblygiadau eraill yr ystyrir eu bod yn berthnasol i waith y Pwyllgor.

Mae papur briffio cefndir ar wahân wedi’i baratoi ar y cynigion i greu Horizon 2020 – fframwaith ymchwil ac arloesi yr UE ar gyfer y cyfnod 2014-2020, a gyhoeddwyd ddiwedd Tachwedd 2011.

2.        Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2012

2.1.         Sicrhau adfywio yn Ewrop

Prif slogan rhaglen waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2012 yw ‘delivering European renewal’ a noda:

…the EU’s overriding priority must be to foster a sustainable and job-rich economy (tudalen 1)

Mae hyn yn adlewyrchu cyd-destun gwleidyddol ac economaidd ehangach yr ansefydlogrwydd ariannol ac economaidd, yn cynnwys yr ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol Ardal yr Ewro.

Mae’r rhaglen waith yn rhoi pwyslais ar bedwar amcan trosfwaol, ac yn nodi ystod o fentrau – llawer ohonynt yn themâu/meysydd gwaith parhaus:

¡  Creu Ewrop sefydlog a chyfrifol: yn cynnwys diwygio’r sector ariannol a sicrhau refeniw cyhoeddus cynaliadwy

¡  Creu Undeb o dwf cynaliadwy ac undod: adfywio’r Farchnad Sengl (cynigion a gyhoeddwyd fis Mawrth 2011), grymuso pobl mewn cymdeithasau cynhwysol (trefn hyblyg ond sicr neu ‘flexicurity’), a braenaru’r tir ar gyfer dyfodol cynaliadwy (yn cynnwys ‘twf glas’ gweler adran 2.2 isod, a’r gyfarwyddeb effeithlonrwydd ynni - cynigion a gyhoeddwyd fis Mehefin 2010)

¡  Rhoi llais effeithiol i’r UE yn y byd ehangach: yn cynnwys polisi ehangu’r UE, polisi cymdogaeth (yng nghyd-destun ansefydlogrwydd gwleidyddol yn ne ardal Môr y Canoldir yn arbennig), a pholisi byd eang (masnach gyda Tsienia, Japan ac ati)

¡  Rheoleiddio doeth a gweithredu effeithiol: gwario’n ddoethach (gwneud mwy gyda llai o adnoddau) a rheoleiddio doethach (lleihau’r baich gweinyddol ar fusnesau)

Fel sy’n arferol mae’r rhaglen waith yn cynnwys cyfres o atodiadau technegol sy’n rhestru 129 o fentrau arfaethedig ar gyfer 2012 (yn cynnwys ymrwymiadau i gyflawni nifer o’r rhain yn 2012), 56 o fentrau arfaethedig ar gyfer 2013, 28 o fentrau symleiddio a lleihau baich gweinyddol, ac yn olaf 17 o fentrau y bwriedir eu tynnu’n ôl.

2.2.         Meysydd posibl o ddiddordeb i’r Pwyllgor Menter a Busnes

Mae’r mentrau a fyddai’n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor a restrir fel cynigion penodol yn atodiadau rhaglen waith 2012 y Comisiwn Ewropeaidd yn gymharol brin. Ymysg y rhai a allai fod o ddiddordeb mae:

¡  Adolygiad o’r canllawiau ar gymorth rhanbarthol cenedlaethol: rhagwelir y bydd y cynigion yn cael eu mabwysiadu fis Medi 2012

¡  Adolygu canllawiau cymorth gwladwriaethol ar gyfer rhwydweithiau band eang: rhagwelir y bydd y cynigion yn cael eu mabwysiadu fis Gorffennaf 2012

¡  Pecyn cyflogaeth (cynigion nad ydynt gynigion deddfwriaethol) sy’n cynnwys Gohebiaeth yn dwyn y teitl ‘Towards a job rich economy’ a Gohebiaeth ar y pecyn Trefn Hyblyg ond Sicr (Flexicurity). Rhagwelir y bydd y cynigion gael eu mabwysiadu fis Mehefin 2012.

¡  Twf Glas: twf cynaliadwy ar gyfer cefnforoedd, moroedd ac arfordiroedd (heb fod yn ddeddfwriaethol), ond mae hyn o bosibl yn fwy perthnasol i gylch gwaith Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn arbennig o gofio’r gwaith y mae’n ei wneud ar ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Yn ogystal â’r rhain cyhoeddwyd cynigion ar gyfer nifer o goflenni yn ddiweddar (soniwyd eisoes am Horizon 2020 felly ni chaiff ei gynnwys yma), a allai fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor. Nid yw’r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr ond mae’n cynnwys meysydd a allai fod o ddiddordeb penodol:

¡  Cyfleuster cysylltu Ewrop i wella rhwydweithiau trafnidiaeth, ynni a digidol yn Ewrop, cynigion deddfwriaethol a gyhoeddwyd fis Hydref 2011. Gallai’r mater hwn gael ei gwmpasu fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfeydd Strwythurol yr UE, ond efallai yr hoffai’r Pwyllgor edrych ar y mater hwn ar wahân hefyd.

¡  Pecyn diwygiedig o reolau cymorth gwladwriaethol ar iawndal cyhoeddus i wasanaethau o ddiddordeb economaidd cyffredinol (SGEIs), a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr 2011

¡  Polisi morol: strategaeth newydd ar gyfer twf a swyddi yn ardal cefnfor Iwerydd, strategaeth nad yw’n strategaeth ddeddfwriaethol a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2011. Mae hyn yn cysylltu â’r ohebiaeth ‘Twf Glas’ y cyfeirir ati uchod, ac efallai ei fod yn fwy perthnasol i gylch gwaith Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

¡  Cynllun gweithredu ar arloesi economaidd, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2011

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor edrych yn ehangach ar rai o’r prif faterion/sbardunau strategol ar agenda’r UE o safbwynt buddiannau Cymru, ac yn adran 3 isod trafodir dau o’r rheini a allai fod yn sail i ymchwiliadau yn ystod 2012.

3.        Materion strategol ehangach o bwys i Gymru

3.1.         Argyfwng Ardal yr Ewro

Mae argyfwng Ardal yr Ewro wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau yn y DU a Chymru (ac yn fyd eang), ynghyd â’r argyfwng ariannol ac economaidd sydd wedi meddiannu agenda’r UE dros y 2-3 blynedd diwethaf. Mynd i’r afael â’r argyfwng yw’r prif rym sy’n llywio rhaglen waith 2012 fel y nodwyd eisoes.

Mae strategaeth Ewrop 2020 yn darparu’r polisi economaidd trosfwaol er mwyn i Ewrop adfer o’r argyfwng, ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau twf doeth, cynaliadwy a chynhwysol.

Yn ogystal, mae’r UE wedi cytuno (ac mae wrthi’n cytuno) ar ystod o fesurau eraill wedi eu hanelu at geisio sefydlogi economi’r UE, a mynd i’r afael ag achosion canfyddedig yr argyfwng ariannol ac economaidd.

Mae hyn yn cynnwys llu o fesurau[1] wedi eu hanelu at:

¡  gryfhau’r ffordd y caiff y sector ariannol a bancio ei rheoleiddio (yn cynnwys fframwaith goruchwyliaeth ariannol newydd ar lefel yr UE, ac amrywiol gynigion deddfwriaethol sy’n cwmpasu cynhyrchion/gwasanaethau ariannol)

¡  cryfhau prosesau llywodraethu economaidd yr UE (yn arbennig y cyutndeb ‘Six Pact’ y cytunwyd arno yn yr hydref a’r cytundeb ‘Euro Plus’ y cytunwyd arno fis Mawrth 2011)

¡  rhoi mecanweithiau ariannol ar waith (y Cyfleuster Sefydlogrwydd Ariannol Ewropeaidd yn wreiddiol a fydd yn newid i fod yn Fecanwaith Sefydlogrwydd Ewropeaidd o 2013 ymlaen) i gefnogi gwledydd sy’n wynebu anawsterau penodol (e.e. Iwerddon, Portiwgal a Gwlad Groeg hyd yma).

Lansiodd Tŷ’r Cyffredin ymchwiliad newydd i argyfwng Ardal yr Ewro fis Rhagfyr 2011, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw canol Ionawr.

Mae Tŷ’r Arglwyddi wedi lansio ymchwiliad newydd i argyfwng Ardal yr Ewro, yn cynnwys y cynigion am gytuniad ar ‘gompact ariannol’ a drafodwyd yn y Cyngor Ewropeaidd fis Rhagfyr, a’r broses y cytunodd 26 o blith y 27 o Aelod-wladwriaethau’r UE arni er mwyn cytuno ar gytuniad rhyngwladol (erbyn Mawrth 2012) ar gryfhau disgyblaeth gyllidebol a chydgysylltu polisi economaidd o fewn yr UE.

Mater i’r Pwyllgor ei ystyried: Gallai fod yn fuddiol i’r Pwyllgor Menter a Busnes ystyried cynnal ymchwiliad yn edrych ar yr argyfwng yn Ardal yr Ewro a’r effaith bosibl ar economi Cymru.

3.2.         Ewrop 2020

Fel y nodir uchod, strategaeth Ewrop 2020 yw polisi economaidd trosfwaol yr UE sydd wedi’i anelu at roi economi’r UE ar y llwybr cywir tuag at adferiad. Prif nod y strategaeth yw sicrhau twf doeth, cynaliadwy a chynhwysol, ac fe’i cyflawnir drwy gyfuniad o gamau ar lefel yr UE (yn cynnwys cyllideb yr UE, camau i gryfhau’r Farchnad Sengl, a chyfres o fentrau thematig blaenllaw i roi cyfeiriad strategol i gamau a gymerir ar lawr gwlad) a thrwy gamau dan arweiniad Aelod-wladwriaethau.

Yn sail i hyn mae cylch llywodraethu economaidd blynyddol - Semester yr UE - sy’n dechrau gyda chyhoeddi’r Strategaeth Twf Blynyddol  gan y Comisiwn Ewropeaidd (sy’n cynnwys canllawiau i Aelod-wladwriaethau ynghylch eu polisïau cyflogaeth ac economaidd) ac mae’n arwain at fabwysiadu Rhaglenni Diwygio Cenedlaethol  ar lefel Aelod-wladwriaethau. Mae llywodraeth y DU yn arwain y gwaith o baratoi rhaglen ddiwygio genedlaethol y DU, drwy ymgynghori â’r Gweinyddiaethau Datganoledig, yn cynnwys Llywodraeth Cymru .

Mater i’r Pwyllgor ei ystyried: O gofio bod y Comisiwn Ewropeaidd yn ceisio cryfhau’r cysylltiadau strategol rhwng rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yn y dyfodol (a’r cronfeydd datblygu gwledig a physgodfeydd) a chylch llywodraethu Ewrop 2020 (yn cynnwys y Rhaglenni Diwygio Cenedlaethol), gallai fod yn fuddiol i’r Pwyllgor Menter a Busnes ystyried cynnal ymchwiliad yn edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru (a rhanddeiliaid eraill o Gymru) yn cymryd rhan yn y gwaith o baratoi Rhaglen Ddiwygio Genedlaethol y DU, a sut y mae’n cymryd camau i weithredu strategaeth Ewrop 2020 ar lawr gwlad.

 

 



[1] Gweler gwefan y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ac Faterion Economaidd ac Ariannol i gael rhagor o wybodaeth.